Episode details

Available for over a year
Cymydog yn Ysbyty Alzheimer’s, Bryn Seiont, Caernarfon Wrth lusgo’i ffrâm lydan at wydr y cartref yn ward anghofrwydd fe’i gwelwn fel coeden gnotiog yn bwrw’i gwreiddiau wrth wres tân trydan. Roedd ei lais mor arw a rhisgl, ei ddwylo yn geinciau i gyd a phridd ei gynefin o dan ewinedd ei fodolaeth. Ond ar ei ddyfodiad i’r ward medrwn ffroeni drachefn arogleuon gweiriau ac anadlu’r pridd a’r haul. Cyfarwydd yr adar ydoedd. Deuent yn enfysau byw at droed ei wely fin hwyr. Clywai nodau eu cân nes diferu ohonynt yn ddefnynnau hud drwy ddrysni ei farf, a gwelai brintiadau eu traed yn troi’n eiriau yng ngaeaf tragwyddol yr ardd. Yntau’n adrodd y stori drachefn a thrachefn ar wynder gwely ei lofft cyn i gwsg anesmwyth gloi’r amrannau yn dynn. Bellach yn ei fodfedd fyd y mae o wedi’i gloi mewn cartref, mewn ystafell, mewn cadair wrth wres tân trydan, a’r wynebau cyfarwydd gynt yn wynebau dieithr mwy. Tydio’n cofio dim nac yn adnabod neb. A thrwy wydr yn unig y gwêl o’r byd gloyw hwnnw oedd iddo unwaith yn bod. Geraint Lloyd Owen.
Programme Website