Episode details

Available for over a year
(Cerdd a ysgrifennwyd yn ystod ymweliad cyntaf Mabon â Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, ddiwedd mis Mai. Ymfudodd rhai o gyndeidiau Mabon o blwy Llangywer ger y Bala, i Batagonia.) Wrth iti ’madael a bachyn bychan arall yn llacio o afael y graig, mae dy goflaid ddi-iaith yn dweud y cyfan. Tro dy gefn a dilyna’r llif llawen i gefn y moto coch i raffu straeon a chaneuon, chwerthin a rhegi yn Gymraeg. Dy fyd fydd dy fag, dy fêts, y wên gyntaf honno a gofi tra byddi neu’r winc ddi-wifr rhwng dau. Glania’n gadarn yng ngôl bro Aran, wrth gyfarch gwell i’r Bala dirion, deg, lle clywi gân dy wreiddiau yn cyfarch o’r tonnau yn Gymraeg. Yno, bydd her mabolgampau ac mi gei daflu dy bwysau nes lledu dy ysgwyddau yn Gymraeg. Mi wynebi wal a honno’n un ddi-ddal ond cydia’n dynn - mi ddaw’r copa yn Gymraeg. A phan fydd llynnoedd du yn dy fygwth di, rhwyfa’n dawel a dal d’afael yn Gymraeg. Heddiw, dilyna’u llwybrau a phlanna ôl dy draed dithau yn gadarn, yn heriol yn Gymraeg. Esyllt Nest Roberts
Programme Website