Episode details

Available for over a year
Samariaid Gwna ninnau yn Samariaid ar ein taith yn barod ein hymgeledd i bob un a lethodd bwys y dydd, neu ddiffyg gwaith, neu helbul yr hen fywyd hwn ei hun. Rho i ni'r gras i dderbyn pan ddaw'r dydd i eraill droi'n gymdogion da i ni, tu hwnt i'n cylch cyfforddus, neu i'n ffydd, gan ddymchwel byrddau balch ein braint a'n bri. Boed i ni ddysgu dilyn gwersi gras a gweld cymydog ym mhob un yn Nuw: gan ddathlu mai trwy fentro tlodi gwas mae profi hyd yr eithaf gyfoeth byw.
Programme Website