Episode details

Available for over a year
Cerddi Siôn Aled ar Raglen Dewi Llwyd 23.07.17 - Heddlu Arfog - Gweinio’r cledd â bloedd heddwch – dathlu cerdd, dathlu celf a harddwch, a ledio gwâr wladgarwch. Gynnau dry’n holl eiriau’n llwch. - Purdeb - Mae ‘na gapal ym mhen draw’r pentra ma, Capal Split, yn ddewr, unigol, ar wahân i bawb, yn falch o’i annibyniaeth, ac yn bur o lygredd eciwmeniaeth yr oes drofaus hon. Mae’n browd o’i hanas hefyd, a sodla degawda o sgidia Sul wedi gwisgo’r grisia at lle’r oedd y drws. Ac mae coedan â’i gwreiddia ym mhydredd y Sêt Fawr wedi trywanu’r to i chwilio am faeth yr haul a’r glaw sy’n parchu ffiniau neb. - Llun pâl yn y Sunday Times - Yng nghanol helbul pobol a’r ffrae Frexitaidd ddig, mae pâl, mewn dôl o flodau, a’i helfa yn ei big. Mae cip ar smaldod natur yn codi gwên o hyd: gan gofio, i lysywen, mai dyma ddiwedd byd.
Programme Website