ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Casia Wiliam - Mis Medi

Bore Cothi

Available for over a year

Mae’r babell yn ôl yn y sied gydag ambell welltyn o’n hanturiaethau yn swatio’n boeth rhwng y plygiadau blêr. Y welingtons hefyd, wedi cael fflich am y tro; mwd Môn yn gafael yn dynn yn eu gwadnau. Da ni’n dal i ‘chwarae haf’ yn ein sandalau tra bod tywod y traethau tramor yn ffeindio’i ffordd mewn i leinin ein cesys. Yn araf, daw sŵn y gloch i’n hysgwyd o’n llesmair hir, a phrysurwn i estyn dillad ysgol a rhoi min ar bensel. Mae’r cloddiau a’r llethrau’n deffro hefyd ac yn rhwbio’r haf o’u llygaid i weld cleisiau piws y mwyar a’r grug. Uwchlaw mae awyr Medi’n hiraethu am oglais y wennol, a’r llanw’n chwyddo dan leuad drom; y dynfa i’w theimlo, bron. Efallai y daw Mihangel a llyfiad cynnes i’n cario tan yr hydref, ond, cyn hynny, cyn i ni ddechrau meddwl am gau’r llenni’n gynt, wrthi’r haul groesi o’r gogledd i’r de, wrth i’r mis hwn ein gorfodi eto i feddwl am drefn, cawn ddeuddeg awr o ddydd, a deuddeg awr o nos. Byddwn i gyd, am ryw ennyd, ar ein hechel.

Programme Website
More episodes