Episode details

Available for over a year
Bardd y mis, Casia Wiliam, yn talu teyrnged i Geraint Lloyd. Y Peiriant Daw’r peiriant hwn o Ledrod mae e’n mynd ers amser maith, ei injan fach sy’n troi a throi heb golli dydd o waith. Daw grwndi braf o’r injan mae e’n hoff o sgwrsio glei! Gall gynnal clonc â phawb a’i Nain o Nefyn i Bompei! Gan chwilio am y ciosgs a dyfalu pwy yw’r llais, aiff hwn a chi am daith non-stop, mae’n tanio ar eich cais! Newid gêr o gân i stori, ew mae mae ganddo glutch control, y shifft hwyr sy’n siwrna esmwyth, cwtsiwch lan, eisteddwch nôl. Nid yw’n methu nac yn blino dan ei fonet mae’n ddi-lych tra bo’r Cymry oll yn swatio dal i droi mae’r peiriant gwych. Mae’n vintage, mae e’n werthfawr mae e’n drysor, Cymru fach, rhowch chi iddo ddŵr ac olew a bydd yma’n fyw ac iach ym mhen degawd, ym mhen deugain, bydd y peiriant gora’ ‘rioed Dal i refio hyd y donfedd - rwyt ti’n glasur, Geraint Lloyd.
Programme Website