ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Ffrind gan Casia Wiliam

Lisa Gwilym yn Cyflwyno...

Available for over a year

Wedi’i hysbrydoli gan albym newydd Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i ‘Redig Dipyn Bach. Ffrind Cefais freuddwyd amdanat ti neithiwr… Fedrwn i mo’i dal hi peth cynta’, cwsg yn fwgwd a’r bore’n bygwth boddi’r llun ond yna’n araf daeth y lliwiau’n ôl. Roedden ni’n blant eto, yn rhedeg rhwng y rhedyn ac yn rhannu chwerthin fel swigod pop. Mewn fflach wedyn dacw ni’n sbecian trwy’r clawdd ar ffermwr y Felin yn stwnsian siarad trwy’i fwstash, yn byw mewn un gôt a’i dŷ yn fudur trwy’n llygaid ni… wyt ti’n cofio fel ydw i? Ac fel mae hi mewn breuddwyd sylwais yn sydyn ein bod yn sgwrsio mewn rhywbeth nad oedd cweit yn Gymraeg, y ddwy ohonom yn dallt i’r dim, y cytseiniaid diarth mor gyfarwydd â’r brychni ar dy drwyn, a’r graith ar fy llaw. A’r peth nesa’, dyna ni ar drên, ar daith yn gweld y byd eilwaith trwy lygaid ein gilydd. Weithiau, ti oeddwn i. Ac yn lle anfon hanes adref ar gerdyn post anfonom blethen hir o’n hoff synau. Fel mae hi mewn breuddwyd. A’r bore ’ma, a finnau’n llwyd mewn swyddfa, a tithau, yn duw a wyr lle, dwi’n hiraethu am y cwbl fel tae ni wedi bod yna go iawn.

Programme Website
More episodes