Episode details

Available for over a year
A glywaist di y bwci bo? Mae sŵn fel crafu ar y to. Tu ôl i’r drws mae taro - cnoc! - Cyn bod tawelwch, a sŵn tic...toc… A welaist di y bwci bo? Dim ond un cip trwy dwll y clo? Ar ffurf rhyw gawr neu drwyn hen wrach Aeth cysgod heibio’r ffenest fach. A deimlaist di y bwci bo Fel awel rewllyd heibio’r tro? Neu law yn estyn am dy ffêr O dan y duvet ’n oer i’w mêr? A wyt yn ofni’r bwci bo? Mae rhai yn dweud, wrth fynd o’u co, ‘Synhwyrau sy’na ‘n chwarae tric’. Ond pwy sy’n meiddio gwneud un smic? Osian Rhys Jones
Programme Website