Episode details

Available for over a year
Cof golofn Drefach, Llanybydder. (Ail osodwyd y gof golofn eleni er mwyn codi Ysgol Dyffryn Cledlyn.) Mae milwr mud wrth gat yr ysgol A’i eiriau’n garreg. Hen eiriau, Hen enwau Ffrindiau. Ar gof a chadw A’u haberth a’u hunllefau’n hofran ger y cae chwarae. Plant. Cwrso. Cicio pêl A chwato. Coed, cloddiau. Dyffryn fyw yn blasu rhyddid Rhwng clychau. Ym mynd a dod yr hewl A chylchdro’r plwy’ Saif amser. Saif yr enwau hefyd. Ond gwers ddrud fydd hi A chwerw fydd chwarae, Os na ddysgwn o’u hunllefau.
Programme Website