ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Sgwrs a cherdd gan fardd mis Rhagfyr, LlÅ·r Gwyn Lewis.

Bore Cothi

Available for over a year

Y cyntaf o Ragfyr Wel dyma fo’n dŵad eto dros y bryn, ’r un fath bob blwyddyn, ac eto’r un faint o sioc pan ddaw. Mae hi’n teimlo’r pinsiad, os nad y dwrn drachefn; trio cofio popeth drw’r dyddia prin. ’R un hen ganeuon yn y siop, r’un rigmarôl: cofio ordro twrci, nôl coeden, a dal y post, ’r un hen adfyrts, yr un hen gyfri’r gost, a’r hen hen gyffro’n drydan drwy’r plant a’r tŷ. Na, mae hi’n falch mewn difri, yn edrych mlaen, ond bod yr hen ddefodau cyfarwydd yn cydgynllwynio â thwllwch-pen-blwyddyn i ddangos am eiliad, mor blaen a llachar â golau’r goeden, be sy’n wahanol hefyd: y trimings a’r tinsel na ddônt lawr o’r atig leni, angylion wedi colli’u adenydd; sêr wedi symud i ffwrdd. Sôn am yr addasu mae hi wedi gorfod ei wneud! Y rhai fydd ddim yno hefo nhw wrth y bwrdd… Felly rŵan, mae hi’n dianc, rhag y bargeinion, rhag siars y radio i gofio gwir ystyr yr ŵyl a disgwyl cynnes ei phlant y daw hi adra’n gwenu: dim ond am eiliad. Troi o’r miri a’r hwyl heb ddeud wrth neb. A neb i’w gweld hi yno, i eglwys dywyll, dawel mewn stryd gefn, rhoi sŵn y traffig tu allan i guddio dan glustog y piw, gwrando’r côr yn ymarfer; nabod y drefn, cymryd ei thynnu gan donnau chwydd a gosteg, ymgolli’n sŵn yr organ fel gair o gariad heb goelio, o reidrwydd, yn unpeth ond yn y golau a bodio siâp y geiria’. ’R un hen garolau all dorri a chodi’i chalon mewn un symudiad.

Programme Website
More episodes