Episode details

Available for over a year
Syrthiodd llen ar eleni a’i chri’n oer, i’n dychryn ni ag un clap: rhyw drap dôr hyll adawodd y lle’n dywyll. Llwyfan gwag: lle fu’n gwegian gan sbri, a chwmni, a chân; heibio oll aethant bellach a thân iaith, a chwerthin iach, rhuo mawr, a’r dagrau mân a’r lliw hefyd o’r llwyfan, a ddoe, fel cwta ddwyawr sydd ar ben: daeth llen i’r llawr. Ddau hwyliog, a’u harddeliad fynnai glust ar lwyfan gwlad, a pharhau wna drama ffraeth anadliad eu cenhedlaeth: her i actio’n Cymreictod o flaen neb oll; cyfleu’n bod o’u calon. Astudio’n stad, a morol am gymeriad. Er y llen, mae’r ddau heno yn rhoi ‘encore’ yn y co’.
Programme Website