Episode details

Available for over a year
Her dydd Gwener sy gen-i: pa ryw deip yw'th siwmper di? Sgen ti siwmper hipsteraidd (byr iawn, mond jyst ffitio braidd)? Oes rhyw foron eironig gan dy dop, neu bengwin dig? Rhyw wiail Fair-Isle ffyri'n wlân i gyd, neu lun o gi? Neu addas weu deunydd swil y wêr yn siwmper shimpil? Ar ras ben bore'r es-i: be sy i'w weld yn y ÃÛÑ¿´«Ã½? Dod i hel ysbrydoliaeth, dod yno i chwilio chwaeth… Un cracing sgan Kate Crockett: dyn eira hardd dan ryw het. Dylan Jones, yn dy lounge wear, llun ydwyt sy'n llawn hyder, ond sâl wir, wrth dinsel-horwth disco-retro Georgia Ruth. Pwy'r ffŵl mewn jympyr a phans yn tinclan? Ifan Evans. Ac wir yr, darlun llawn grym yw gweled Lisa Gwilym ag un rad, â gwên Rudolff o gylch diemwntiau golff. Drewi mae Tudur Owen (rhoes bais croen gafr dros ei ben). Ar flaen un Dyl: bauble bach, a Garry? Llun dau gorrach, a gwehyddbeth Geth a Ger a weuwyd o wlân gwiwer. Dwy bom pom sydd gan Tommo fel nyth ar flaen ei un o. Un Dei o hyd wnaed wedyn mae'n rhaid, â defaid ei hun. Un rad, addurnwyd yn rhwydd â chelyn ac uchelwydd hynod sgen Gerallt Pennant o hemp lwyd (mae'n dychryn plant). Swagro a pharêdio'n ffri'n high-life mewn cashmere fflyffi (ddoeth naddwaith, un wehyddwyd) hyd y lle wna Dewi Llwyd, ac wir, dyn gwell dan gardi na Al Hughes, ni wela' i. Ac er mai golwg wirion tu hwnt sydd i'r giwed hon, wrth chwarae, mi chwaraeant ran i hel arian i'r plant. Gwisgwn nhw, ac os gwnawn ni fel Ger, fel Al a Garry, Lisa G., Dewi, a Dyl, ein siwmper sy'n esiampl.
Programme Website