ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Gwaed yr Iesu

Tudur Owen

Available for over a year

Gwaed yr iesu Mi sgwenni di gerdd am fy mhasio ar y stryd heb wybod be oedd fy enw byth rhoi puntan, gan beidio â chyffwrdd fy nwylo yna adra. Sefyll yng ngwaelod dy ardd ac edrych nôl ar wres y tŷ dy fyd yn gyflawn o dy flaen a chredu dy fod wedi haeddu hyn chei di byth ddarllen y straeon fu’n fy mhen na dallt be yrrodd fi yma, na gwybod chwaith mor dena ydi’r flanced, pa mor hawdd fydda llithro yn gymaint ag y gwnest ti i un o’r rhai hyn fe glywi am fy marw mewn parc, a’r gwair yn socian gan eira ddoe: troednodyn i benawdau’r dydd, chei di ddim cyfle i glywed y gân oedd gen i, na sut ro’n i’n ei chanu pan oeddwn i’n blentyn weli di mo’r gwagle lle bues i: drws siop fel bedd agored, gwag. Ond fy enw i oedd Paul, ac ro’n i’n dod o Sarn, Pen-y-bont a dyw gwaed fy ngwythiennau ddim wedi methu eto.

Programme Website
More episodes