ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Newyddion ffug y Dolig

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

Newyddion ffug y Dolig Fel gŵyr pob rhiant cyfrwys a Santa hyd y tir, mae angen dos o gelwydd cyn gallu llyncu’r gwir. Bu raid i'r doethion clyfar a Herod o fewn clyw ddweud celwydd bach hanfodol i gadw'r gwir yn fyw. A Joseff — er ei fod o ’di gweld drwy'r angel yn glir, mor daer roedd o am gredu bod hwnnw’n dweud y gwir. Y seren ddisglair eisoes erbyn cyrraedd uwch y crud oedd farw ers milenia, yn gelwydd golau i gyd... A’r byd i gyd yn dywyll a’r gaea’n oer a hir rhyw sgeintiad bach o gelwydd fel eira dros y gwir a wneith am nawr i’n twyllo rhag cael ein llorio’n llwyr gan rym yr holl wirionedd a’n tarodd yn rhy hwyr Ac thitha’r babi bychan, a thitha’r seren glir, mi goelia i’ch holl gelwydd cyhyd â’i fod o’n wir.

Programme Website
More episodes