Episode details

Available for over a year
Cadw’n Heini Dewch i wrando hyn o ganig rof yn hael, fel rhoi calennig; am addewid a wnaf ’leni, un adduned wna’i mo’i thorri. Llawn wyf i o sbrowts a thwrci, llawn yw’r stumog o siocledi, llawn o reiat y mis olaf, mae fy melt mor dynn amdanaf. Yn y wardrob, mae trowsusau, yn y wardrob mae fy nghrysau ers blynyddoedd mewn rhyw hirlwm, roe’nt yn ffitio’r bol ers talwm. Daeth mis Ionawr, rhaid anghofio am y cwrw a’r holl stwffio; af i’r gampfa, ac ymorol mod i’n myned yno’n ddyddiol. Mynd a wnaf i gadw’n heini er mwyn bod yn ail George Clooney; talu am aelodaeth blwyddyn, colli’r bol, cael gwasg fel llefnyn. Cyrraedd gym, a gweld y mysls (a’m rhai innau megis pimpls); pawb mor dynn eu leotardiau, bloneg sy’n fy nhracsiwt innau. Trio’r beic, a chael fod seiclo’n boenus odiaeth, gwaeth na rhwyfo; gallwn geisio codi pwysau ond mae’n ’nafu fy nghyhyrau. Llusgo draw at beiriant loncian er mwyn rhedeg yn fy unfan, ond rôl munud ar ei elltydd rydwy’ angen coesau newydd. Dyma syniad, beth am nofio, byddaf leden luniaidd yno, ond mae’r clorin yn fy llosgi – af i orwedd i’r jacwsi. Yn y sba, rwy’n ffit am oriau yn gwaredu’r calorïau, wedi gadael caf fanana; ond myn diain mae caffi’n fan’na. Ionawr aeth, a daeth mis Chwefror, gwag yw’r gym, a’r caff ar agor, ond fe gadwaf i’r aelodaeth rhag bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth. Felly hoff wrandawyr ffyddlon hyn o gyngor rof yr awrhon, peidiwch addo mynd i’r gampfa . . . hyd nes daw mis Ionawr nesa’.
Programme Website