ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Englynion Troad y Flwyddyn

Hywel Gwynfryn

Available for over a year

Englynion ar droad y flwyddyn Fe fu’n hen flwyddyn finiog, biwisaidd: ei bysedd esgyrnog brau, ei chelwyddau, a’i chlog ddu o gynnen ddigeiniog. Oedd hen o’i chrud, a’r ddannoedd arni hi, rhyw wanhau drwy’r misoedd crintach: llawn rhu corwyntoedd fu’n blwyddyn. Llawn helbul oedd. Tanau tyrau, a distryw ton, syberwynt Siberiaidd o greulon a’i gyr hi i’w bedd yn gron, a llid, a mil colledion. Yn Drymplyd, a rhy unplyg yr aeth hi yn rhithiol: sŵn sarrug yn cyhuddo drwy’r caddug, a sŵn y plebs yn eu plyg. Enbyd yw’n hoes, a’n byd ni yn fanach bob yn funud, wrth i etholiadau a thlodi nithio awch ein hapathi; ac o lôn a fyn gulhau, ninnau’n awr drwy weiren y llwybrau ddown i wneud addunedau heb wir weld y gwnân’ barhau. Ond dros glep y drws a’i glo, a nhwythau’r coed yn noeth, gwn eto wedi’r ŵyl, y daw, ar dro, rwyg y barrug i buro: rhoi rhyddid i bob gwreiddyn farw’n iawn, a’i friw’n oer, ac wedyn rhoi lled i ambell hedyn godi o’i wâl, gyda hyn. Ar ddiwedd oer, ddiawel eleni, ail-luniwn y gorwel a’r byd o hyd wedi hel i’w hen dai, a’r lle’n dawel. Rhew mân, a’r môr a’r mynydd yn aros yn hir ac yn llonydd, wedi’u hel gan hyd y dydd yn gawlach mud i’w gilydd. Yn llathraidd hyd ffyrdd llithrig awn, a’r rhew’n yr awyr yn ffisig, i gynnau tân rhag gwynt dig, i hel hyn o galennig. Gweld llanw gwelw golau y flwyddyn, fel heddiw, ’n llawn maddau’n lledaenu dros holl donnau ein byw llwyd, cyn ymbellhau. Gad hi lonydd; gad i leni orwedd a marw lle mae hi, a down at fyd o eni sy’n newydd, newydd i ni. A tyrd ti, cyn troi’r tywydd, y dadlaith a’r dadlau tragywydd i’r engan stond rhwng nos a dydd, a chawn ni wreichion newydd.

Programme Website
More episodes