Episode details

Available for over a year
Chwilio (Dydd Bydd Hapus, 23 Ionawr) O Ionawr a’i ddyffrynnoedd awn â chanfod cyfrinach enfys, un a’i odre’n chwardd o belydrau, a hanfod ein gwynfyd i’w gael yn ei gawg aur. Ohono tynnwn heulwen o lawenydd, un pelydryn fel perl, yn dlws yng nghledr dy law; hwn yw Taliesin ein hinon, a phob addewid o hyd yn newid, yn pefrio hyn o aeaf. Yn flodau gardd, yn chwarddiad, yn her cyhyrau, yn chwarae mân, yn gytgan, yn gôr, yn sgwrs araf y dafarn, yn eiriau ar gerdded, yn gymuned, yn gerdd. Ac awn, ymadawn â’r cawg aur, ond daliwn yn dynn am belydryn bach, gan wybod nad yw’r hanfod wrth droed yr enfys.
Programme Website