ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Available for over a year

Llion Pryderi Roberts, bardd mis Ionawr 2018, sy'n ymateb wedi iddo wrando ar brofiadau’r rhai sy’n gofalu am anwyliaid â Dementia ar y rhaglen Beti: ar ôl colli David. GOFAL Mae drws y siop yn ymagor ei wahoddiad o dy flaen, tithau’n difeddwl warchod rhag y dyrfa, a sganio’r allanfeydd am ddrws agored, cyn cofio nad oes raid barcuta am beryglon heddiw. Cerddi ymysg dilladau hafau cyplau eraill, yn braidd gyffwrdd â’r llawes hon a’r llall er na ddisgwyli wyrth..., ond mae’r respite mor dda efo fo. Cyrraedd y caffi, a diosg byrdwn y bag, ond nid yw’r ’sgwyddau’n ’sgafnu o fwrw blinder am awran, a’r fraich lle bu’n pwyso neithiwr, o’r gawod i’r gwely, yn gwynegu ei ddryswch. Tywallt y te, fel y gwnei bellach, gan siantio ‘dwy lwyaid i mi ac un i ti’ wrth y gwacter gyferbyn, ac wrth i’r llwy ’stwyrian drwy’r anwedd gweld ei wên yng nghrychiad y llaeth, a threm hir yr ennyd fer yn lapio gwres ei ddeall amdanoch eich dau drachefn.

Programme Website
More episodes