Episode details

Available for over a year
Os am steil, ceisiwn ffeilio llyfr wrth lyfr nôl ei liw o; nid lliw y siacedi llwch lliwgar neu’r cyfar cofiwch ond lliw y penodau llwyd; y lliw hwn na ddarllenwyd: hufen y tudalennau a brown eu hymylon brau. Lliw ar feingefn, anrhefn yw ond y llwyd, nid hyll ydyw. Da y gwn, er steil, nad gwâr i’r llygaid yw clawr lliwgar, yn hytrach, gwell steil niwtral o’u rhoi i wynebu’r wal.
Programme Website