Episode details

Available for over a year
Beryl Griffiths sy'n ysgrifennu cerdd ar gyfer Dydd Gwyl Dewi 2018 wedi iddi ddarllen y dyfyniad: 鈥淲elshness is a preoccupation, a political position, a form of dissent against the dominance of English culture鈥 Cymreictod Rhywle ym mhlygion y si么l a lapiwyd amdanaf, Ym mhlethiadau ei chynhesrwydd clyd, roedd un edau, Yn batrwm hardd, yn llinyn o geinder, yn araf Ddirwyn yn gwlwm o berthyn, o gysylltiadau. Aeth rhin yr edau feddal, o鈥檌 throi rhwng fy mysedd, Yn rhan ohonof, ac wrth im fentro yn dalog Hyd lwybrau bywyd roedd yno, a鈥檌 gafael rhyfedd Yn dynn amdanaf, yn gysur pur, diysgog. Ond weithiau, pan ddaw rhai i dynnu yn yr edau, I鈥檞 datod am na welant iddi werth na harddwch, Bydd brath yr edau鈥檔 torri i鈥檙 byw a bydd creithiau Hen, hen friwiau鈥檔 llosgi yn danbaid yn y duwch. Ac felly, os gofynni pa beth yw Cymreictod, Nid safiad, na dewis, na her, hwn yw fy hanfod.
Programme Website