Episode details

Available for over a year
Gwers Adroddir yr hanes yng nghyfrol Simon Jones – Straeon Cwm Cynllwyd Rôl gorffen ei ddyletswyddau a phorthi ei stoc Fe droediodd yn falch tua’r fawnog ar ddiwedd dydd, Dan ei gesail yn dynn roedd ei gyfaill dur, a thoc Daeth clecian adenydd grugiar yn codi yn rhydd O gysgod y llwyni, yn daran o gnawd a phlu. Cododd y gwn a dilyn ei hediad trwsgl, ffôl, Dros borffor y grug. Ergyd. Tawelwch. Aeth yn hy I geisio ei wobr. Cyn ei chodi hi i’w gôl, Trwy’r llwyni yn ddi-betrus ei chymar ddaeth ar frys Yn union ar draws llwybr y llofrudd mud a’i wn, I syllu, mewn tor-calon, ar y corff yn y llus, A’r saethwr yn llygad-dyst syfrdan i’r galar hwn. Ac er i’r bugail grwydro’r llethrau ar hyd ei oes, Ni fu yn saethu wedyn ar fawnog Bwlch y Groes.
Programme Website