Episode details

Available for over a year
Mae’n amser am bos, bach o sbort, dim cystadlu. Pwy neu beth ydw i? Eich tasg chi yw dyfalu. Bydd bron pawb sy’n gwrando’n dweud mod i’n ddefnyddiol boed hynny bob dydd neu yn bur achlysurol. Rwy’n swnllyd dros ben, er nad ydw i yn fyw, nid ydw i am ddim a llwyd yw fy lliw. Ac er mod i’n handi, does dim un yn eich tŷ. Mae gen i chwaer fawr ond mae hi’n llai na fi. Dydw i byth yn cael cyntaf na chwaith yn cael trydydd ‘mond boddi wrth ymyl y lan yn dragywydd. Rwy’n arbed amser ac arbed amynedd i griw bois y loris ers dros ugain mlynedd. Rwy’n llonydd a llydan yn rhinwedd fy swydd ac er mod i’n gadarn, mae ‘nghroesi i’n rhwydd. A dyma’r cliw olaf, bûm yn y penawdau ac ar Taro’r Post, fi oedd achos y dadlau gan fod na rhyw grinc a’i fryd ar f’ailenwi a hynny ar frys, heb ddim ymgynghori ar ôl Sais o d’wysog- peth dwl a di-angen. Dyma pwy ydwi- Yr Ail Bont Hafren.
Programme Website