Episode details

Available for over a year
Disgynnodd cawod eira dros ein byd a ninnau’n stond, yn llawn rhyfeddod syn. Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd. Y cyngor oedd i aros adre’n glyd a gafael ymhob eiliad fach yn dynn. Disgynnodd cawod eira dros ein byd. Â’m camera, ceisiais gadw cof o’r hud mewn lluniau sydd fel cardiau post o wyn. Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd. Caf wên neu sgwrs yn amlach ar y stryd a phawb yn oedi’n hwy y dyddie hyn. Disgynnodd cawod eira dros ein byd. Mae’r rhew yn toddi’n gynt a chynt o hyd a’r dŵr yn llifo nawr i’r lle y mynn. Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd. Mae’n amser cadw’r pram a’r mat a’r crud. Oes peth i’w weld ar ôl ar gopa’r bryn? Disgynnodd cawod eira dros ein byd. Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd.
Programme Website