Episode details

Available for over a year
Gan fod Cymru’n mwynhau dy bosau di gymaint, dyma osod ‘run her, ‘run dasg i ti Geraint ... “Ar fforchiad y ffordd caf sefyll yn dalog, fy wyneb yn goch a ‘nhalcen i’n sgwarog.” “Rwy’n loetran bob awr yng nghwmni myfyrwyr, gan rannu pob ffaith, pob si sy’n yr awyr.” “Er ‘mod i ar fryn, nid ydy o’n fynydd; ond gwir fod dwy ran ohona’i ‘Meirionnydd.” Mig geiriau sy’n cau yr ateb o’r golwg; ond Geraint, tyrd ‘d’laen, i ti bydd o’n amlwg!
Programme Website