ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Gweld Y Copog yn Trefdraeth !

Galwad Cynnar

Available for over a year

Annwyl Galwad Cynnar, Rhyw wythnos yn ol fe welsom aderyn nad ydym wedi ei weld erioed o'r blaen ond mewn llyfrau adar. Yr ydym yn byw mewn ardal weddol goediog ar lethrau Carn Ffoi uwchben Trefdraeth ,Sir Benfro. Gwelsom yr aderyn hwn yn cerdded ar hyd y feidir tuag at ein ty a wedyn yn pigo ar y lawnt o flaen ffenestr y gegin. Y mae fy ngwraig a minnau yn sicr mae y Copog oedd yr aderyn yma. Yr ydym wedi ei weld droeon ar ol hyn. Yr oedd patrwm ei ehediad o ddu a gwyn a phinc yn brydferth dros ben. Yr oedd yn hollol wahanol i unrhyw aderyn arall pan yn ymestyn ei dwffyn i'r awyr. Mae yn aderyn newydd iawn i ni, tybed a ydyw yn aderyn sydd yn mynychu ardaloedd eraill yng Nghymru, neu efallai un sydd wedi colli ei ffordd ydyw? Diolch am y rhaglen. Alun ac Eileen Davies

Programme Website
More episodes