ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Cerdd gan Rhys Dafis

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Available for over a year

Clwb Peldroed Caerdydd (yr Adar Gleision) yn cael eu dyrchafu i gynghrair y Brifadran, tra bod Clwb Peldroed Abertawe (yr Elyrch) ar fin disgyn oddi yno i gynghrair y Bencampwriaeth. Gwyn eu byd yr adar gleision, Hwy gânt fynd i’r fan a fynnon; Ar ôl cyfnod dros y gorwel Hedant eto’n chwim ac uchel. Testun ein hedmygedd ydynt; Llachar las, a choch o danynt, Balch eu cân, a balch eu trydar, Balch eu lle ymysg yr adar. Gwyn fu byd yr adar gwynion, Hwy gânt fynd o’r fan a fynnon; Mwyach maent yn nofio’n dawel Tua’r gwyll â’u pennau’n isel. Er ymddangos yn osgeiddig, Bu eu coesau’n pedlo’n ffrantig; Yn y diwedd, mae y cerrynt Wrth y lan yn ormod iddynt. Ond ‘mhen dim, ar ôl cymhennu, Dônt yn ôl â’u plu’n serennu; Gwyn ein byd yn gwylio wedyn Mewn un man y ddau aderyn.

Programme Website
More episodes