ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Odliadur Roy Stephens gan Idris Reynolds

Available for over a year

Neuaddau’r mydryddu a hud yr aeddfedu A unai bryd hynny i lasu y wlad, Yn wrda’n ei ardal, yn ddifai o ddyfal  gofal bu’n cynnal aceniad. Yn ŷd o drawiadau, yn haidd o ddelweddau Bu’n cywain o’r caeau ein geiriau i gyd, A’r grynnau mor gryno, ein hiaith gadd ei llwytho A’i storio dan do gan ŵr diwyd. A heddiw mae’r gwaddol yn fwyd i’r dyfodol, Y gwenith gwahanol sy’n gabol a gwâr, Lliw haf o sillafau ar gyfer gaeafau Yn fyrnau o ddoeau’r hen ddaear. Idris Reynolds

Programme Website