Episode details

Radio Cymru,3 mins
Odliadur Roygan Alan Llwyd
Available for over a year
Erbyn hyn y mae deugain haf – er mor anodd yw credu hynny – ers i Brifwyl Caerdydd ddathlu cyhoeddi dy lyfr; deugain Awst wedi hen fynd heibio, fel Afon Taf yn llifo heibio i’w hynt o ddydd i ddydd, nes i heddiw droi’n flynyddoedd a ddoe; llithro heibio mor ddiarwybod ag amser ei hun. Mae cynnwrf yr Awst hwnnw yn fyw o hyd ynof fi: llefarem ac anadlem odlau; roedd odlau ymhobman, odlau, llond cae o odlau, odlau yn crwydro ledled maes yr Ŵyl, gan rymuso’r iaith wrth gryfhau a dyfnhau ein hawen. Rhoist inni, yr Awst hwnnw, ddigon o eiriau i odli â’th enw fel y gallwn ddathlu dy gamp. Beth, felly, sy’n odli â Roy? Paratoi: Llafuriaist, paratoaist ti odlau ar gyfer eraill, a’r odlau yn ffin ac yn droedle, yn oroesiad ymhob ymryson, wrth i ni atgyfnerthu ein haith. Darperaist eiriau parod ar gyfer y beirdd, bob un. Ymroi a rhoi: Ymroi a wnaethost rhag marw o’n hiaith, ymroi i roi i’r Gymraeg ddigon o odlau am ddwy genhedlaeth, o leiaf, Roy. Dy lyfr oedd sail a chanllaw ein hawen uwch seiliau a chanllawiau ein llên; dy lyfr odlau afradlon ac ynddo ormodedd o odlau, digon o odlau i feirdd dy genedl fod yn un â’r traddodiad am byth. Cyffroi: Ar Awst yr Ŵyl cyffroist yr iaith i ganu â hyder, wrth iti genhadu o blaid y gynghanedd, a pharhau a wnaeth y cyffro hwnnw o Ŵyl i Ŵyl, ac er i’r tawelwch digyffro dy hawlio di, buost ti, bob Awst o haf, yn rhan o’r cyffro hwnnw. Ffoi: Ffoaist ti i’th orffwys dwfn yn rhy annhymig o lawer; er inni ymglywed â’th lais, distewaist ti yn rhy gynnar i ganu dy gân dy hun, er bod gennyt fwy o odlau na’r un o’r glêr ar gyfer y gwaith. Troi: Trist oedd fel y troaist ti oddi wrthym mor warthus o gynnar; troi o’n plith cyn trin plethiad y gynghanedd ymhellach; troi, cyn i ti â’r awen gyflawni dim, ac ail gyfle nid oedd. Cloi: Mae’r Eisteddfod yn dod i Gaerdydd eto eleni, a bydd creu telyneg, a bydd eto lunio englynion, ac yno y byddi di yn ymarhous ymhob ymryson yn ateb y tasgau eto o linell i linell, yn cloi englynion y beirdd, er dy fod, bob Awst, mor oesol ddiymryson. Rwyt ti, er hynny, wedi cymryd rhan ymhob ymryson ym mhabell y beirdd, er cadw mor bell ers bron i ddeng mlynedd ar hugain; a bydd gennyt eleni eto linell neu ddwy yn englynion y beirdd, a bydd dy lyfr odlau yn cau ein llinellau ni ac yn cwblhau ein cywyddau a’n hawdlau o hyd, gan barhau yr hyn a ddechreuaist un Awst ddeugain mlynedd yn ôl.
Programme Website