ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Baled y Gyrrwr Anghofus

Geraint Lloyd

Available for over a year

BALED Y GYRRWR ANGHOFUS Closiwch yn nes, gyfeillion I wrando arnai’r awrhon Yn adrodd hanes un na aeth Yn gaeth i fân ofynion. Wylo a wnawn ein gwala Dros Tomos Hafod-fila A aeth drwy gysgod oer y glyn ‘Rôl boddi’n Llyn Y Bala. Yn bedwar ugain union, Cyhoeddi wnaeth y gwron Y mynnai ddysgu gyrru car Hyd briffyrdd tar anunion. Fe brynodd felly Ffordyn Yn rhad wrth rhyw hen lordyn; Yr oll â’i cadwai rhag y saint Oedd cot o baent a chordyn. ‘Rhên Morgan Lloyd y Sgweier Oedd yr egspiriensd dreifer, Âi gyda Tomos bob dydd Iau, Gorchwyl a wnâi am ffeifer. Mewn car fel ar gefn tractor, Er gwylio pob Fferm Ffactor, Un gwael oedd Tomos, ie wir, Am wasgu’r indicêtor. Ei esgus gwan dros beidio Cyflawni’r cyfryw osgo Oedd, ‘Musnes i yw ble dwi’n mynd, Fy ffrind, os na chi’n meindio.’ Perswadiwyd ef gan Morgan Y dylai newid anian Gan gofio gwasgu’r botwm troi Yn glir, yn gloi a buan. Ar ddydd y prawf, sef drennydd I Ŵyl yr Hen Ddihenydd, Aeth Tomos gyda Morgan Lloyd I’w oed yn Sir Feirionnydd. Fe deimlai’n ddigon smala O gyrraedd tref Y Bala, Ond am y testyr yn sedd Moc, Roedd cnoc bach yn ei fola. Fe aeth y prawf yn syndod, A Tomos gadd ollyngdod, Ond o fewn dim i ben y daith Fe aeth yn annibendod. Gan iddo lwyr anghofio Y dylai indicêto, Fe hitiwyd Tomos o’r tu ôl Gan Focsol Sais o’r Bermo. Neidiodd y testyr allan - Un chwimwth oedd y bachan - Hedfanodd Tomos drwy’r sgrîn wynt, A hynny’n gynt na Batman. Mae’r hanes trist i’w weled Yn gymen ar ffurf baled Ar wyneb marmor carreg fedd Yn hyfryd hedd Uwchaled: Yma y ceir gweddillion Un aeth i’w fedd yn brydlon, Gwasgodd yn gywir glytsh a brêc, Ond un mistêc fu’n ddigon. Tomos, yn ddianghenraid Foddodd ymhlith y gwyniaid; Ond boed ei enaid heddiw’n wych A sych rhwng glân seraffiaid. Rhybuddiaf felly bobun Sy’n droed-trwm ar ei sbardun, Gochelwch oll rhag dioddef lôs Tomos yr anghredadun. Arwr di-arddangosiad Aeth tua’i atgyfodiad Hyd lôn un-ffordd heb arwydd STOP Na’r un sbîd cop na throad.

Programme Website
More episodes