ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Iwan Rhys yw bardd preswyl mis Gorffennaf.

Bore Cothi

Available for over a year

Dyma gerdd am wyliau Iwan ar gwrs coginio yn Sevilla, Sbaen Gwersi Coginio Sevilla. Gwisgo piner am fy nghanol, Ysgwyd llaw y cogydd bach. Cymryd golwg ar y cigoedd, Llysiau lliwgar lond y sach A pherlysiau dirifedi. Cymryd gwydr bach o sheri. Cydio yn y gyllell fwyaf, Torri'r persli'n fân fel llwch. Iro'r tin ag olew golau. Stwffio afal i geg hwch. Sgrwbio croen y tato brafa. Joio'r swigod yn y Cava. Halltu a ffiledu'r pysgod, Rhoi'r octapws mewn bath o ddŵr I goginio'n araf, araf. Toddi menyn, adio fflŵr. Cymryd hoe bach rhwng dwy dasg I flasu gwin o Wlad y Basg. Pwyso reis a mesur moron, Toddi siocled yn y pan, Malu saffron yn yr halen. Mae fy nghoesau'n teimlo'n wan. Hwylio'r malwod fel armada. Agor potel o Rioja. Ffrio winwns, garlleg, tshilis, A rhoi esgyrn yn y stoc, Y mae'r lle yn dechrau troelli. Sgwn i i ble'r aeth y wok? Rhoi fy mys mewn saws a'i lio. Gwydr mawr o Tempranillo. Trio, ar ôl hedfan gartre, Cofio'r hyn a ddysgais i Er mwyn ail-greu yr holl gampweithiau. Ond caf drafferth, wir i chi. Ac er y gwersi, er y gost, I swper caf ffa pob ar dost.

Programme Website
More episodes