ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Iwan Rhys - Bardd y Mis

Geraint Lloyd

Available for over a year

Lori Mansel (ar dôn Milgi Milgi) Pan ro’n i’n mynd un bore braf ar yr hewl i Aberystwyth fe ddales lan ’da lori fawr jest rownd rhyw gornel lletwith. Lori Mansel! Lori Mansel! Ar yr hewl i Aberystwyth. Lori Mansel! Lori Mansel! Jest rownd rhyw gornel lletwith. Co wasgu’r brêc yn sydyn iawn a bron i mi gael whiplash ac wir fe aeth fy nhonsils i yn sownd ym mlew fy mwstash. A’r lori fel anghenfil mawr yn llenwi’r hewl o ’mlaen i; dim lle i’r dde, dim lle i’r chwith dim lle i fynd o dani. Lori Mansel! Lori Mansel! Yn llenwi’r hewl o ’mlaen i; Lori Mansel! Lori Mansel! Dim lle i fynd o dani. Ac ar ôl hanner awr neu fwy o wynto tin y lori fe welais chwarter milltir syth o hewl, a mynd amdani. Ond dau gan llath yn nes ymlaen ar yr hewl i Aberystwyth fe ddales lan ’da lori arall fawr jest rownd rhyw gornel lletwith. Lori Mansel! Lori Mansel! Ar yr hewl i Aberystwyth. Lori Mansel! Lori Mansel! Jest rownd rhyw gornel lletwith. Iwan Rhys

Programme Website
More episodes