ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

'Haf o Hyd' ydy testun cerdd Aron Pritchard, bardd preswyl mis Awst.

Bore Cothi

Available for over a year

Haf o Hyd o safbwynt gweithiwr swyddfa! Aeth Gorffennaf. Haf o hyd ydyw hi, ac mae’n dwym! Criw chwyslyd yn y gwaith ŷm ni i gyd! Rhoes haf ei greisis, hefyd, a’n creisis? Do, fe’n craswyd bob yr un, fel hash browns, fe’n ffrïwyd! Ond gwres rhy gynnes a gwyd i’n canol – fe’n air-coniwyd, ond nid air-con sy’n llonni’n awelon rhwng waliau i’n hoeri sydd fan hyn i’n swyddfa ni: Yn yr ha, mae’n ein RHEWI! Mae’n bwerus, mae’n beiriant y nenfwd! Anghenfil diwydiant heb ei ail, ddirgryna bant â’i orchwyl uwch-ddisgyrchiant, yn gerrynt Arctig araf i’n fferru, caiff herio’r rhai gwytnaf! Ein gwae dry’n frethyn gaeaf, bobble hats heb awel haf, heb synnwyr! Codwn, hwyrach, rhyw wegian o’n rhewgell dan rwgnach mas i’r stryd, am funud fach; man go neis. Mae’n gynhesach!

Programme Website
More episodes