Episode details

Available for over a year
Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn. Anorfod yw pob newid yn ei dro. Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn. Llwyd, du a choch yn hagru’r glesni mwyn; Dail crin a melyn hyd y llawr ar ffo; Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn. Y gwres; byrhoedlog yw’i serch a’i swyn, Ni phery’n hir ei harddwch brau pan fo Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn. Ymhlyg yng nghân yr awel clywir cwyn, Fel rhybudd trist y doethion dan y gro. Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn. Hydreiddia naws farugog hyd y brwyn Ar batrwm cywrain dirgel dwfn ym mro Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn. Mae’r prudd ystwyrian hudol nawr yn dwyn Ffug degwch arlliw ddiwedd haf i go’, Gwawr oer a rhagflas gaeaf dros y twyn, Gelyniaeth hen y lliwiau yn y llwyn. Mihangel Morgan
Programme Website