Episode details

Available for over a year
Treial Eliffant (Cynhelid achosion llys yn erbyn anifeiliaid yn aml iawn yn yr oesoedd canol. Dygwyd creaduriaid megis moch, mulod, llygod, buchod a phryfed, hyd yn oed, o flaen 鈥渆u gwell鈥. Er i鈥檙 arfer hwn ddod i ben erbyn y ddeunawfed ganrif, yn America ar Ionawr 4, 1903, dienyddiwyd eliffant o鈥檙 enw Topsy. Fe鈥檌 cyhuddwyd o fod yn 鈥渆liffant drwg鈥, er na chynhaliwyd prawf yn ei herbyn mewn gwirionedd, a phenderfynwyd ei dienyddio. Er mwyn ei lladd bwydwyd gwenwyn iddi, fe鈥檌 trydanwyd ac fe鈥檌 tagwyd 鈥 y trydan a鈥檌 lladdodd hi yn y diwedd. Ffilmiwyd y digwyddiad ofnadwy hwn. Yr eliffant yw symbol y Blaid Weriniaethol yn America.) O鈥檙 holl anifeiliaid yn y sw i gyd Tydi Topsy sy鈥檔 creu trafferth o hyd. Maen nhw鈥檔 dweud dy fod wedi lladd un neu ddau, Felly, rhaid cynnal prawf, er gwir neu gau. A dyma ti鈥檔 sefyll o鈥檔 blaenau ni鈥檔 awr, Yn llwyd i gyd ac yn glustiau mawr. Ry鈥檔 ni Americanwyr yn hoff o ddial, A dyna pam ry鈥檔 ni鈥檔 cynnal treial. Er mwyn gweithio ma鈥檚 pwy sydd ar fai, A chanfod y gwir, fwy neu lai. Nawr te, Mr Reilly, dywedwch i ni, Os cofiwch yn iawn, be鈥 ddigwyddodd i chwi? 鈥淢ae鈥檙 cof yn pallu, mae鈥檙 cyfan yn fwg, ond rwy鈥檔 eitha siwr roedd e鈥檔 rhywbeth drwg. Ac er nad wy鈥檔 ffyddiog, cant y cant, Y taeog, rwy鈥檔 credu, oedd yr eliffant. Dwi ddim yn cofio鈥檙 lleoliad na鈥檙 awr Ond roedd yr ymosodwr yn greadur mawr. A dyna鈥檙 peth nawr, o flaen y llys. 鈥楥o dyna hi, lle rwy鈥檔 pwyntio fy mys.鈥 Ie, dyna chi Topsy, y paciderm ewn. A dyma鈥檙 tyst nesa. Dewch i mewn. Nawr Mr Murphy, dywedwch yn blaen Am eich profiad ofnadw, ewch ymlaen. 鈥淩oedd hi鈥檔 noson ddychrynllyd dywyll bol buwch A finnau鈥檔 betrus...鈥 Siaradwch yn uwch! 鈥淎 finnau鈥檔 betrus fel deryn mewn llaw, fe鈥檓 gwthiwyd o鈥檙 cefn ac fe gwmpes mewn baw A Topsy a鈥檓 gwthiodd, o hynny rwy鈥檔 siwr. Dwi鈥檔 hynod o nerfus, ga鈥檌 ddiferyn o ddwr?鈥 Diolch Mr Murphy am eich tystiolaeth glir. Bob yn gam ry鈥檔 ni鈥檔 nes谩u at y gwir. Mae鈥檙 cyhuddwyr yn onest, rhaid derbyn eu gair. I鈥檙 ddalfa 芒 Topsy, heb siwgr, heb wair. Mae hi鈥檔 amlwg yn euog, wath ddywedodd hi ddim. Mae鈥檔 haeddu鈥檙 gosb eitha, ddidrugaredd a llym, Sef gwenwyn a thrydan a rhaff am ei llwnc A chlymu鈥檌 choesau, ei phen a鈥檌 thrwnc. Wel, dyna ti Topsy, serfia di鈥檔 reit. Fe鈥檛h gafwyd yn euog. Rhwymwch hi鈥檔 deit. Ac fe laddwyd yr hen Dopsy o flaen criw o bobl. Er gwaetha鈥檙 creulondeb roedd hi鈥檔 farwolaeth nobl. Mihangel Morgan
Programme Website