Episode details

Available for over a year
Y Bugeilgi Nid gwastatir undonog fu fy mywyd, cefais sawl haf, a sawl gaeaf hefyd. Ro'n i'n un o wyth, yn un o blant bach Mam, tyfasom bob un, a mynd fesul cam i ddilyn trwyn a gosod seiliau i'n taith, dewisais innau rug y mynydd maith. Dofais fy nghlust i'r "Sa allan" a'r "Gorwedd" a dilyn pellter chwiban ar lechwedd. Rhedwn ar alwad i grynhoi pob dafad a'u hel i'r clôs, gan deimlo fel ceidwad ar ddiwrnod cneifio, pan grasai'r haul y tir a minnau'n meddwi yn nŵr y nant glir. Ond daeth yr eira a'r cesair yn eu tro yn daranau gwewyr i fwrw'n bro a diflanais innau dan y niwlen drom, gan golli fy ffordd, a mawr oedd fy siom wrth weld un iau yn dal yr awenau, yn herio'r hen dir, a'm llwybrau innau.
Programme Website