Episode details

Available for over a year
CFfI Mae'n nosi, mae'n bryd ei throi hi ar ras, ar ruthr i'r neuadd fach sy'n prysur lenwi. Yn y drws, gwelaf gysgod hogen fach yn eiddil wylio yn eiddil wrando ar y criw a'u straeon gwallgo' am gaeau gwlyb y Rali peintiau hwyr y parti holl firi'r caru, a'r cystadlu. Fe'i gwyliaf, yn hanner gwenu yn hanner cochi yn union fel gwnes innau ar drothwy'r drws. Ond mae rhywbeth yn ei denu ac er bo'r nos yn araf nosi mae un arall yn mentro arni. Megan Lewis
Programme Website