Episode details

Available for over a year
Mae ’na rywbeth wedi newid ond alla i ddim deud be, dwi ’di troi’n rhywbeth newydd, dwi ’di symud o fy lle. Mae’r un oedd ar ei gythlwng ac yn gollwng ei flawd lli wedi ffoi, cyn i mi droi, o symud atat ti. A dwi’n synnu sut mae’n digwydd – dim ond cwrdd, a dyna ni – ond ti’n dewis dilyn llwybr wrth ymroi yn llwyr i’r lli. Dwi ’di dysgu gen ti, cariad, ac yn dysgu mwy a mwy, dwi ’di clymu rhuban ar y gwynt, Duw a ŵyr i bwy; ond dwi’n disgwyl y bydda i’n deall pob un wefr sy’n symud trwy ein llinynnau ni, y rheina sy yn canu trwy bob clwy. A dwi’n teimlo’r holl ddefodau oedd yn segur am rhy hir, ’mond am ennyd fach, yn symud eto trwydda i. A dwi’n teimlo’r peth yn digwydd – y cwrdd, a dyna ni – ti’n dewis dilyn llwybr wrth ymroi yn llwyr i’r lli.
Programme Website