Episode details

Available for over a year
Papur wal ’Nathon ni symud tŷ, y tri ohonom ni, a chyfaddawdu o ran beth i’w gadw o dy bethau di, fy mhethau i, a phethau’r babi. Ac wedyn, eu gosod yn daclus, hyd y gallwn ni wneud hynny, mewn lle lle’r oedd eraill wedi bod cyn ni. Ac yn y man lle fydda i’n gwneud paned, mae ’na rywun arall yn ei hyfed, yn sefyll yno hefyd, yn fy nirnad i ar ben eu byd, gan deimlo, yn eu stafell wely, dy luniau di, a lle’r oedd eu tŵls yn hongian o’r to, rŵan – fy rhai i yno, a Now’n gosod ei deganau, yma, ac acw, hyd y lloriau, yn annwyl ac yn flêr, a dan draed hyd sawl llinell amser. Tybed os oedden nhw’n addasu’u cam wrth fynd i’r gegin, neu’n gwasgu trwy’r cyntedd i osgoi’r pram? Tybed os ydw i’n gwneud rŵan? Yn gwyro ’nghwrs, neu’n sbïo’n flin i gyfeiriad llun a fydd uwch y lle tân. Achos mae haenau paent a phapur wal yn parhau am byth, heb bylu, hyd yn oed o’u rhwygo lawr, eu darnio a’u malu, mae nhw’n aros, er hynny, fel y dwylo a fu wrthi’n ddiwyd yn gosod eu bywydau ar y byd.
Programme Website