Episode details

Available for over a year
Deian Creunant o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a George Mee sy'n son am un ohonynt. Dei Tomos sy'n holi. Mae pum prosiect i ddiogelu natur, bywyd gwyllt a thirweddau Cymru wedi elwa ar gyllid gan y Loteri Genedlaethol o dros £4 miliwn. I warchod bywyd gwyllt Cymru, caiff Canolfan Dyfi, o dan reolaeth Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, a phrosiect Cysylltu’r Dreigiau, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, yn derbyn tua hanner miliwn o bunnoedd yr un. Bydd y prosiect Cochion Iach i gefnogi poblogaethau'r wiwer goch, a gyd-lynir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, yn derbyn bron i chwarter miliwn. Bydd Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, gaiff ei gyd-lynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn derbyn bron i £1.8 miliwn a chaiff Cynllun Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi: Ynys i’w Thrysori, dan arweiniad Cyngor Sir Ynys Môn, dros £1 miliwn.
Programme Website