Episode details

Available for over a year
Portread o Wersyll (Di-Frexit) gyda diolch i gerdyn iechyd yr Undeb Ewropeaidd Gwersyll dwy seren a’r pitch yn fach ond i ni – goleuni’r byd; eleni’n fwy nag erioed. Catalaniaid yw’r mwyafrif; eu ‘Bon Dia’ a’u ‘Merci’ yn rhuban haul rhwng y pebyll. A rhyngddynt, rhyw beli boule o ymwelwyr, a chlec y Gymraeg a’r Ffrangeg ar drywydd yr un wefr fach: cael bod yma yng nglesni braf y teulu hwn, heb ddim ond Cristina a Jordi, eu rhieni a’u plant i’n difyrru ni. Ac wrth drochi yn eu gwên a’u chwerthin a chlywed gan un fod angen pwythau ar un o’m plant – iddo syrthio oddi ar ei feic a rhwygo’i goes, ’chynhyrfa’i ddim mwy na’r awel dyner o Fôr y Canoldir. Mae ’goriadau Ewrop yn fy walet i a rhwymyn ym Mhalamós fel yng Nglangwili.
Programme Website