ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru 2,1 min

Tudur Hallam - Arallgyfeirio?

Sioe Frecwast

Available for over a year

Arallgyfeirio? Dwi'n poeni'n fawr am Daniel Glyn. Mae ’na olwg ar y bachan. Mae stand-up Cymru mas o waith. Sdim iws dim mwy i’w ddychan. Mor hurt yw'r news, fel nad oes modd dychmygu gwaeth na’r ffwlbri sy’n sgrechian arnom ddydd a nos, a ni'n imiwn i’r dwli. Mae Brexit nawr yn hen, hen joc. Heb ddeunydd, Dan sy’n meddwl: ‘Mae’n bryd im’ ailgyfeirio’n siŵr a throi’n wleidydd, wedi’r cwbwl. Caf ddweud a fynnaf, bod yn gas; caf sgriptio’r holl benawdau. Po fwya’r antics, mwya’n byd y caf lywio’r hen gyfryngau. Bydd pawb yn heclan, pawb yn flin, a hi’r Senedd imi’n llwyfan – y gwleidydd odia', hurta’ ’rioed, y Daniel Glyn diddychan.’

Programme Website
More episodes