Episode details

Available for over a year
'Wyt ti'n clywed cloch Medi - yn galw Trwy giliau'n cartrefi A chlywed ei ‘Dere di Yn awr cyn bod hi’n oeri?’ Arogla holl wyrddni’r glyn – cyn yr heth, Cyn i’r rhew anhydyn Fferru’n mêr, cyn i’r deryn Wibio o’r nyth a’r bryniau hyn. A llenwa o’r perllannau – y seler, Blasa haul y dyddiau Ir a rhithiol yn ffrwythau Ein haf cyn i’n gaeaf gau. Dere i weld blodau’r allt – cyn i law Fel cân leddf ymdywallt Ar wyneb dyn a bronnallt A’u pwyo hwy â’i chwip hallt. Heddiw bydd byw! Rho heibio waith – am dro, Medi’r haul a’r afiaith Ydyw hwn, saib ar y daith ; Yr alaw nas ceir eilwaith.
Programme Website