ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Yr Hoeden

Bore Cothi

Available for over a year

‘Yr Hoeden’ (Cyflwynedig i bawb sy’n ceisio dysgu Cymraeg) Â llam yn ei llais, trodd ataf un tro Yng nghiliau rhyw dafarn, a brolio ei bro ; Dior oedd ei hacen, Chanel oedd ei gair, Pan aeth, cododd hiraeth fel gwawn yn y gwair, A gwyddwn na allwn ymlonni heb hon, Na byw heb ei nabod a’i chloi dan fy mron. Dilynais yr hoeden o’r Rhondda i’r Rhos, Ac yfed o’i cherddi yn nwyster y nos ; Fe lanwodd fy mreuddwyd, fe nerthodd fy nwyd, Rhoi lliw ar y llechwedd a blas ar fy mwyd ; Ond corwynt yw’n cariad a’i dân i ni’n dau, Serch Burton a Taylor, gorawen a gwae! Rwy’n drachtio a drysu, yn mynd gyda’r teid Oherwydd, fy hoeden, be’ ddiawl wyt ti’n ddweud? ‘Ty’d yma, ’rhen hogyn ..’, ‘Wel dere, boi bach ..’ Am awr o lapswchan caf ddwyawr o strach! Rhwng dau a dwy, a thri a thair, Mae ’mhen i yn troi fel olwyn ffair ; Mae cath yn gath, a’r gath yn chath, Allwedd yn ’goriad, llefrith yn lla’th! Mae’n groten ffein, ond yn hogan glên, A’r enath grintach yn rhoces fên ; Cadno yn llwynog, a bord yn fwrdd, Darfod yn bennu, maharan yn hwrdd! Panad yw dished, isho yw moyn, Ffwr’ â chdi nawr, yn llamu fel oen! Benthyg a mincid, twgyd a dwyn Geiriau o bobman - mae’n farus, mae’n fwyn. Mae’n denu a gwenu, ffromi a siomi, Bregus a brochus, llon fel y lli ; Hon yw fy wejen, fy halen a’m hufen, Hon yw’r anwylyd sy’n fywyd i fi!

Programme Website
More episodes