Episode details

Available for over a year
‘Croeso i’r Liberty’ Mae un gêm yn twymo’n gwaed, Un her yn twymo’r oerwaed ; Ai Barnsley? Derby? Nid un O’r rhain a fedr ennyn Y tân yn nwfn ein canu, Y tân llydan trwy ein llu. Â’u cred wag daw tîm Caer-dydd A’u dynion gwan eu deunydd! Pa hwyl ydyw lympio’u pêl Yn hir, hir, tua’r gorwel? Ni, hil ledrith y glewdroed, Hil o dras y sêr pêl-droed. Rodon ein harwr ydyw, A Dyer bach ar dro byw ; Mae cynnwrf yng ngham Connor Ar y maes fel tonnau’r môr, A’n llew yw Ayew’r awen, Rhwyda’n bert â’i droed neu’i ben! Uwch ac uwch hed Alarch gwyn Na stŵr y Glas Aderyn ; Ododdin y brifddinas, Er eich medd, a fentrwch mas Yn ddi-ofn, a feiddiwch ddod I’r hen bair? Ry’n ni’n barod! Robat Powell I'r Adar Gleision There once was a team from Leckwith Who found this season very "lletchwith", But with Bamba and pack, Warnock won't get the sack, As we hope to get one on the jacks! Michelle Lewis
Programme Website