ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Rufus Mufasa - Manteision y Maverick

Rhys Mwyn

Available for over a year

Manteision y Maverick Pe bai Rhys Mwyn yn ysgrifennu llythyr ataf Bydd yn swnio rhywbeth fel hyn... Rufus, os ti'n gwybod beth ti'n dod i'r bwrdd Paid ofni bwyta ar ben dy hun Mae'r sefyllfa ddim wastod yn teimlo'n barchus Ond Rufus, ti'n rhydd. Ar dy taith trwy'r byd, gyda'r pen sgwennu mewn llaw Cadw dy weledigaeth yn glir a phur. Rufus, ateb yr alwad i Ewrop Cer i Indonesia, a ateb yr alwad i weddi Boddi mewn ieithoedd bodorol A dere adref i anrhydeddu dy un di. Rufus, ateb alwad Llwyd Owen Mae ganddo gliwiau a allweddi ar gyfer dy gwest. Rufus, cer i Gwyl Y Gelli Dal nol y dagrau, cymera pob dim mewn A creda bob gair mae Gareth Evans Jones yn ei ddweud A bydd Julie Richards yn credu dy air di Ac yn ddangos i ti werddon gwych newydd.... A paid colli cwsg dros y boi arall sydd am i ti rhoi lan dy enw... Cofia Trefforest 2001 Llawn Nigeria, India, Yr Aifft, Bahrain Cofia y diwylliannau Dy grud di pan wnest ti grio dy hun i gysgu... Cofia dy fedydd... Mae'r llinellau rhwng y chwith a'r dde ddim yn glir rhagor... Ac mae dy greddf yn frawychus Rufus, teithia i Ty Newydd Mae Lloyd George yn aros Fydd Jon Gower yn rhoi dealldwriaeth newydd i ti A byddwch chi'n dawnsio gyda'ch gilydd trwy strydoedd Llanelli A bydd y Duwiau yn ail gyflwyno Shane Williams, a'r cymoedd a'i cododd... Rufus, rhoddon nhw pen i ti cyn i ti gyrraedd Ni all neb yn y deyrnas hon dynnu hynny oddi wrthot ti. Cadw hyn mewn cof ar y diwrnodau caled Ar y diwrnodau mae drws y Castell yn cau yn dy wyneb... A cofia, mae'r porthorion yn gwneud ffafrau enfawr i ti Bydd yn ddiolchgar, am hyfforddiant y rhyfelwyr dwys... A cadwa gopiau o'r mapiau A'u pasio i lawr yr ysgol Achos ni di cael ein magu Gan elfennau Punk a Hip Hop Ar ethos sy'n ein huno Yw bod "pob un yn dysgu un" A does dim byd ail-ddosbarth am hynny... Rufus Mufasa

Programme Website
More episodes