ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,10 mins

Mirain Haf fu'n dysgu Cymraeg i Josh O'Connor

Aled Hughes

Available for over a year

Bu'n rhaid i Mirain arwyddo cytundeb 'Non Disclosure', yn addo na fydda hi yn dweud dim am be oedd hi yn mynd i fod yn ei wneud, a hynny cyn iddi wybod beth oedd y dasg o'i blaen, sef dysgu Cymraeg i'r actor Josh O'Conner oedd yn portreadu'r Tywysog Charles yng nghyfres The Crown. Fe anfonodd y cwmni cynhyrchu ychydig o olygfeydd i Mirain eu gweld o gyfnod yr arwisgiad, a hithau'n gorfod dweud wrthyn nhw nad oedden nhw'n adlewyrchiad teg o Gymru ar y pryd. Roedd y sgript wreiddiol yn awgrymu rhyw ddiweddglo Disney - fod pawb wir yn hoffi a charu'r teulu brenhinol, ond chwarae teg i'r cynhyrchwyr, mi wnaethon nhw gymryd popeth yr oedd Mirain wedi ei ddweud i ysgtyriaeth a newid y golygfeydd i fod yn adlewyrchiad mwy Cymreig o'r cyfnod.

Programme Website
More episodes