ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Cyfle gwych i bobol ifanc

Galwad Cynnar

Available for over a year

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am Geraint George, a oedd yn amgylcheddwr, addysgwr a chyfathrebwr brwd. Roedd wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u hannog i drafod a ffurfio barn am bynciau amgylcheddol yng Nghymru a thu hwnt. Nod yr ysgoloriaeth flynyddol, sy’n agored i unigolion 18-25 oed, yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all helpu pobl yng Nghymru i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno. Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru. Bydd yr enillydd yn cael dewis un ai ymweld â Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slofenia (sydd wedi ei gefeillio â Pharc Cenedlaethol Eryri), neu fynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn. Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru. Gallwch gyflwyno’ch gwaith drwy unrhyw gyfrwng – dyma ambell syniad i chi! Ffilm fer [hyd at 3 munud o hyd] Blog [wythnos fan lleiaf] Eitem sain wedi recordio [hyd at 3 munud o hyd] Hyd at 3 Erthygl(au) Cartwnau neu Bosteri [hyd at 3] Cyflwyniad PwyntPwer ar bwnc arbennig Taflen(ni) Gwybodaeth [hyd at 3] Ysgrif(au) neu ddetholiad o draethawd ar bwnc arbennig Stori/Straeon [hyd at 3] Gellir canfod mwy o wybodaeth am enillwyr blaenorol a sut i gyflwyno'ch gwaith ar wefan yr Urdd.

Programme Website
More episodes