Episode details

Available for over a year
BYWYD MEWN CROMFACHAU Y mae hi'n hwyr, neu y mae hi'n fuan iawn, ac mae'r profi wedi'i wneud; trwy ffeiliau dua"r nos bûm yn stryffaglu, yn rhyfeddu ac yn rhesymu ar bapur graff fy modolaeth, er mwyn gallu dweud fod rhyw bethau bach yn hafal i bethau eraill. "Profwch hyn" meddai'r cwestiwn... ac mi wnes! Ond hyd yn oed ar ddiwedd xhwe phejan o weithio allan, a llond dalennau o groesi allan, o osod mewn cromfachau ddyheadau a diffiniadau a phrofiadau hyn o fyd, mae'r ateb yn rhy blaen, rywsut; yn ddifywyd o foel ac yn fud. Waeeth nid yn y datrysiad y mae'r ateb. Mae hwnnw wwdi'i ffactorio mewn cromfachau, wedi'i rannu, wedi'i sgwario yn benderfyniadsu ar y daith: a dyna pam mai yno, yn ein parhad a"n parenthesis, y mae bywyd sy'n cyfri y tu hwnt i rifau. Rhaglen Aled Hughes Mawrth 3, 2020
Programme Website