ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Cerdd Siop Griffiths gan Karen Owen - Bardd mis Mawrth

Geraint Lloyd

Available for over a year

SIOP GRIFFITHS dw i'n ôl wrth y cowntar, ac mae'r list yn hir - dw i isio sosban, a phowlan Pyrex glir, un cwpan a sosar patrwm bloda mån, sacha duon a doilis a chlamp o raw dân; gwell cael pen i'r mop, cyn eith hi'n rhy hwyr, a Brasso, a blocyn o bolish cwyr, ga'i focsaid o wenwyn i ladd llygod mawr, a choes hir, newydd i'r hen frwsh llawr; bracet dal llun, ac ornament, un trywal i'r ardd, a micsiad o sment; tun hanner galwyn o breimar, a ffiws, a dwy, naci tair... na, pedair o sgriws; dwy rôl Anaglypta, a bagiad o bast, ac ma'n well bachu u-bend i'r beipan wast; ga'i garna i'r cyllyll, ga'i gannwyll a llwy, ga'i fun heb olwynion, a chanistr nwy; å'i drwadd o'r siop i wâl yn y cefn, am gwaral o wydr nain bai sefn, a thra ydw i yma, ga' i yndyrcôt du a phwys a hanner o bwti cry'; un blëd wedi'i lapio'n y Daily Post, tair llathan o gêbl heb boeni am y gost, deg troedfadd o raffan i'w chlymu hi'n dynn, chwe socet, a bylbia i'w cadw ynghynn. mi ro'n nhw pob goriad sy'n gam trwy y feis, a thorri fy hardbord i'r union seis; rhoi min ar y cryman a saim yn y clo, a phetrol tw-strôc yn yr hofyr-mo... ac fel'na yr oedd hi, ac felly y cawn, pan oedd mynd ar Siop Griffiths, a'i silffoedd yn llawn.

Programme Website
More episodes