Episode details

Available for over a year
FaceTime gyda’r Wyrion Ebrill 22ain, 2020 ‘Helo! Helo!’ Clywaf lais, anadlu, yna’r adlais, deialwyd y llun deulais. O’r awr unig ar ynys, ar wib af wrth wasgu’r bys i’r seiat mor groesawus. A’u neges ddaeth o’r gegin, sŵn anferth, yna chwerthin a rhyw sgrech ar draws y sgrîn. Wedyn fe ddaeth yr uniad, ŵyr a’i lun o ben draw’r wlad â’i oriau yn ei siarad. Daeth hanes ein hwyres ni â iaith Sam Tân amdani, a’r wên, a ni’n gwirioni. Er mor bell ydynt bellach, eto mae’r sgrîn yn lletach, yn gysur sy’n agosach. Yn agos mae’r ddau begwn a diogel y gwelwn byw i’r llun yw’r Ebrill hwn; wyrion a’r cyfrineiriau, yr heniaith a’r rhestr enwau, camau’r rhain drwy’r camerâu. Os bwgan yw’r gwahanu, yna toc, daw gwên i’r tŷ, mae’n haws i mi ynysu. Wedi ffenest i-ffonio, wedi’r haf, wedi’r hen dro, awn atynt unwaith eto. Geraint Roberts
Programme Website